Rejected petition Rydym yn galw ar Apple i gynnwys y Gymraeg fel iaith swyddogol ar ei systemau gweithredu
Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac yn rhan greiddiol o ddiwylliant ac hunaniaeth genedlaethol. Serch hynny, nid yw’n bosibl ar hyn o bryd defnyddio’r rhyngwyneb Apple yn y Gymraeg, na defnyddio cywiro sillafu, tecstio rhagfynegol na Siri yn ein hiaith.
Rydym yn galw ar Apple i:
• Ddarparu fersiwn lawn o iOS a macOS yn Gymraeg
• Cynnwys cywiro sillafu a rhagfynegi testun yn Gymraeg
• Ychwanegu’r Gymraeg fel iaith swyddogol ar Siri a’r App
More details
Os yw Apple yn gallu cynnwys ieithoedd megis Catalaneg, Gaeleg yr Alban a Basgeg, yna mae gan y Gymraeg yr un hawl i gael ei chefnogi’n llawn.
Mae technoleg yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd – a heb y Gymraeg ar Apple, mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu hamddifadu. Mae’n bryd i Apple weithredu.
Arwyddwch y ddeiseb hon i ddangos eich cefnogaeth!
Why was this petition rejected?
It’s about something that the Senedd or Welsh Government is not responsible for.
We only reject petitions that don’t meet the petition standards
Rejected petitions are published in the language in which they were submitted