Rejected petition Pwyso ar S4C i ddangos gemau Cymru Premier ar y brif sianel deledu yn ogystal a'r platfformau arlein

Yn y blynyddoedd diweddar mae llai a llai o gemau byw Cynghrair Cenedlaethol Bêl-droed Cymru, Y Cymru Premier, yn cael eu dangos ar sianel deledu S4C. Ar y foment gwelir gêm gyntaf y flwyddyn, un gêm neu ddau dros gyfnod y Nadolig, a'r gêm olaf o'r tymor.

Tra mae'r ddarpariaeth arlein yn gynhwysfawr, mae'r strategaeth hyn yn broblem am amryw reswm, a'n gnoc i'r system bêl-droed Gymreig a'r iaith wrth i Saesneg neu ddim fod yn y bariau yn hytrach na sylwebaeth Gymraeg.

More details

Clybiau a thafarnau:
Mewn clybiau ledled Cymru, o Bwllheli i Y Barri, o Gaerfyrddin i Dreffynnon, o Gaergybi i Bort Talbot roedd rhaglen Sgorio ymlaen cyn neu wedi y gêm ar y sgriniau. Nid yw hyn heddiw yn wir i raddau'n agos i'r hyn oedd. Haws yw rhoi sianel arall ymlaen, hyd yn oed os yw'r teledu'n 'glyfar' mae'n drafferth i staff prysur, achlysurol.

Pobl sydd heb deledu clyfar gartref:
Nid yw'r ganran o berchnogion teledu clyfar yn ôl yr ystadegau diweddaraf o bell ffordd yn gyflawn. 74% oedd y ffigwr drwy Brydain y cyfrif olaf.

Blaenoriaethu ailddarllediadau:
Gydag effaith y gemau yn gyhoeddus heb eu cloriannu'n iawn, efallai fod argraff nad yw'r gynghrair werth ei roi'n reolaidd ar y brif sianel, gydag ailddarllediadau, rhaglenni sydd wedi bod o'r blaen ar S4C, yn bwysicach. Pe bai pobl eisiau gweld y rhain mae nhw hefyd ar gael arlein. Ond ni fydd S4C ymlaen yn y clybiau a'r tafarnau ar b'nawniau'r penwythnos. Mae un teledu mewn clwb yn cyrraedd llawer mwy nac un mewn cartref.

Why was this petition rejected?

It’s about something that the Senedd or Welsh Government is not responsible for.

We only reject petitions that don’t meet the petition standards

Rejected petitions are published in the language in which they were submitted